Telerau llawn

Rhowch gymorth i ni gadw Hen Ysgol Trefeurig drwy noddi carreg. Dyma gyfle i gyfrannu at gadw’r adeilad a datblygu'r cyfleusterau ar y safle i’r gymuned ac yn ogystal, ar gyfer ymwelwyr i’r ardal.

Beth gawn ni ohoni?

  • Fel cyfrannwr fe fydd eich enw yn cael ei arddangos yn yr ysgol ac ar ein gwefan
  • Byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost o’r gweithgareddau a’r digwyddiadau yn Hen Ysgol Trefeurig
  • Byddwch yn ymwybodol eich bod chi’n cyfrannu at ffordd o fyw sydd yn diflannu’n gyflym

Beth yw termau’r noddi?

Medrwch chi roi faint y mynnwch chi am garreg – rydym ni’n awgrymu isafswm o £25 am unigolyn a £200 am deulu, ond mae’n iawn i addasu i lawr neu i fyny yn ôl yr hyn fedrwch chi ei fforddio – does dim mwyafswm a medrwch chi noddi cymaint o gerrig ag y mynnwch chi! Fe fydd y noddi yn para am ddwy flynedd ac nid yw’n ad-daladwy. Os nad ydym yn llwyddiannus yn ein hymgyrch i brynu’r ysgol, mi fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gyfrannu at ganolfan arall i’r gymuned.