Cylchlythyr Hydref 2011
2011-11-05 20:33
Cais i Gronfa’r Loteri Fawr a Chodi Arian
Diolch i waith caled Jane Edmonds, Geraint Edwards, Marian Gray, Jane Guest a Felicity Wills, cyflwynwyd ein cais i Gronfa’r Loteri Fawr erbyn y dyddiad cau ym Medi 2011. Nawr mae gan gronfa’r Loteri chwe mis i ymateb i’n cais neu ofyn am fwy o wybodaeth.
Rydym wedi gofyn am £350,000 i brynu adeiladau’r ysgol ac ailwampio ac adnewyddu’r adeilad i’w ddefnyddio fel Canolfan Gymunedol a Dysgu Gwledig. Y nod yw cynhyrchu incwm ychwanegol er mwyn cadw adeilad yr ysgol at ddefnydd y gymuned dros y cenedlaethau sydd i ddod.
Beth gafodd ei gynnwys yn y cais?
Prif nod y cais oedd sicrhau dyfodol Hen Ysgol Trefeurig fel canolfan gymunedol ar gyfer y naw pentre’ bach sy’n ei hamgylchynu. Mae’n hanfodol prynu’r ysgol er mwyn iddi oroesi fel canolfan gymunedol. Byddai cymorth arian Loteri’n rhoi cyfle inni gyflawni hyn, i wella’r cyfleusterau’n unol â dymuniadau’r gymuned ac i ysgogi’r hyder sydd ei angen i ddatblygu syniadau a gweithgareddau.
Byddai tair blynedd o gefnogaeth arian loteri hefyd yn caniatáu i’r gymuned i dreialu ffyrdd newydd o sicrhau’r refeniw sydd ei angen ar yr ysgol i oroesi yn y rôl yma yn y dyfodol. Mae Canolfan Dysgu Gwledig yn darparu un cyfle o’r fath i gynyddu’r refeniw, tra’n cynyddu gwerth ac amrywiaeth y gweithgareddau i’r gymuned yn unol â’r anghenion a fynegwyd.
Mae ein cysyniad y ganolfan dysgu gwledig yn un o ganolfan fodern, gydag offer band eang, fyddai’n caniatáu dysgu mewn amgylchedd gwledig. Bydd ein canolfan yn darparu’r gymuned wledig â chyfleoedd dysgu sy’n cwrdd â’u diddordebau penodol, a bydd hefyd yn apelio at ddarparwyr eraill sydd â diddordeb mewn cynnig cyfleoedd dysgu i gymunedau gwledig a busnesau bach gwledig.
Rhagwelir y bydd y ganolfan dysgu gwledig yn denu ymwelwyr i gyrsiau ar benwythnosau a ddarperir gan ymarferwyr lleol, yn seiliedig ar grefftau gwledig traddodiadol, gan ddefnyddio deunyddiau lleol, cynaliadwy sydd wedi’u hailgylchu, coed, gwlân, lledr, tecstilau, fydd hefyd yn adlewyrchu diddordebau lleol. Bydd y cyrsiau hyn yn cyfrannu at waith y prosiect trwy ddechrau creu cyrchfan o’r ysgol a’r ardal o’i hamgylch.
Bydd y prosiect yn caniatáu i weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir trwy gydol y flwyddyn gan ein grwpiau defnyddwyr presennol i barhau. Bydd y cyfleusterau gwell fydd ar gael, ynghyd â gwaith Cydgysylltydd y Prosiect o ran hyrwyddo gwaith gwirfoddol, hefyd yn denu ac ymgysylltu ag aelodau newydd, ac yn darparu man cwrdd cynnes, diogel, sych a hygyrch ar gyfer grwpiau a gweithgareddau newydd...
Bydd hefyd yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd, a fydd yn eu tro’n cyfrannu at amrywiaeth a safon yr hyn a gynigir gan y ganolfan. Er enghraifft, hyfforddi gwirfoddolwyr i greu archif ddigidol o atgofion a dogfennau am yr ardal, annog gwirfoddolwyr i greu pecyn teithiau cerdded a bywyd gwyllt ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr â’r ardal, grymuso aelodau’r gymuned i gymryd rôl weithredol yn y broses o werthuso a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Os hoffech chi dderbyn copi electronig o gynllun ein prosiect i ddatblygu’r Ganolfan Gymunedol a Dysgu Gwledig, yna cysylltwch â Marian Gray a fydd yn e-bostio’r cynllun atoch.
Holiadur Diweddar
Diolch yn fawr iawn am eich ymateb i'r holiadur diweddar. Ymddiheuriadau oddi wrth Marian Gray i'r sawl oedd yn dymuno ateb yr holiadur yn Gymraeg - yn anffodus rhoddodd Marian y ddolen anghywir yn yr e-bost.
Help i lunio ceisiadau am arian
Y cais yma yw cam cyntaf cynllun datblygu parhaus ar gyfer yr ysgol a’r safle, gyda’r nod o greu dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr hen adeilad yma, sydd wedi bod ac yn parhau i fod cymaint wrth galon ein cymuned wledig. Mae datblygiadau eraill sy’n cael eu hystyried yn cynnwys mynediad i’r anabl, ardal parcio a llety i’r rhai sy’n mynychu cyrsiau penwythnos neu’n ymweld â’r ardal fel twristiaid.
Mae gennym ffrydiau ariannu eraill y gallem wneud cais amdanynt ond mae angen gwirfoddolwyr arnom i ymuno â’r Grŵp Ariannu presennol, i’n helpu i gyflwyno ceisiadau pellach er mwyn sicrhau bod y Ganolfan yn cynhyrchu incwm ac yn economaidd gynaliadwy yn y tymor hir.
Yn y tymor byr, mae angen inni wneud cais am arian i’n galluogi i dalu rhent chwarter ychwanegol, allai fod gymaint â £900 y chwarter. Os ydy’r sgiliau priodol gennych, yn ogystal â rhywfaint o amser i’n helpu gyda cheisiadau eraill, cysylltwch os gwelwch yn dda â:
Jane Guest 01970 820125 Ebost: janeanneguest@gmail.com
Felicity Wills 01970 828677 Ebost: felicity.wills@btinternet.com
Marian Gray 01970 820021 Ebost: graymarian@gmail.com
Canolfan Gymunedol Hen Ysgol Trefeurig Community Centre Ltd.
(CGHYTCC Ltd)
Yn gyntaf, hoffem ddweud “diolch o galon” i Dave Taylor sydd wedi gwasanaethu fel Trysorydd y Grŵp ers iddo ddechrau rhyw bedair i bum mlynedd yn ôl. Rydym yn ddyledus iawn i Dave am ei ymrwymiad a’i gefnogaeth i’r Grŵp Cymunedol.
Rydym yn falch iawn o groesawu Geraint Edwards i’r ‘gorlan’ am fod Geraint wedi ymgymryd â rol y Trysorydd, ac mae’n meddu ar nifer o’r sgiliau busnes fydd eu hangen arnom i redeg cwmni cymunedol llwyddiannus yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd dim ond tri chyfarwyddwr sydd gan y cwmni cymunedol, CGHYTCC Ltd., ac rydym yn awyddus i wahodd pobl eraill i ymuno â Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Bydd yn arbennig o bwysig i gael mwy o gefnogaeth ac arbenigedd os fyddwn ni’n llwyddo gyda’n hymdrechion i brynu ac ailwampio’r ysgol.
Am fod ein cwmni cymunedol yn gwmni cyfyngedig drwy warant, mae’n golygu nad oes yna gyfalaf cyfrannau, ac mae gan y Cyfarwyddwyr atebolrwydd cyfyngedig o £10 yr un os ydy’r cwmni’n methu ac yn mynd i ddwylo’r gweinyddwr neu’n mynd yn fethdalwr etc.
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am fod yn Gyfarwyddwr
Beth mae Cyfarwyddwr yn ei wneud?
Cyfarwyddwyr yw swyddogion y cwmni sy’n gyfrifol am reoli’r cwmni a gwneud penderfyniadau ynghylch sut i’w weithredu o ddydd i ddydd, a sicrhau ei fod yn masnachu o fewn y gyfraith.
Rhaid i’r Cyfarwyddwyr gadw at nifer o ddyletswyddau a osodir yn adran 171-177 o Ddeddf Cwmnïau 2006 a Deddfau dilynol, sy’n cynnwys dyletswyddau megis ‘hyrwyddo llwyddiant y cwmni’ ac ‘ymarfer gofal, sgiliau a diwydrwydd rhesymol’. Ymhlith dyletswyddau eraill Cyfarwyddwyr mae’r cyfrifoldeb dros hysbysu Tŷ’r Cwmnïau am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth am y Cwmni, megis swyddfa gofrestredig, penodi cyfarwyddwyr etc., ac am gofrestru’r ffurflen ariannol flynyddol a’r cyfrifon.
Gellir dirprwyo cyfrifoldeb ar Gyfarwyddwr i sicrhau bod gweithdrefnau a pholisïau arbennig mae’r Cwmni wedi’u mabwysiadu’n cael eu gweithredu yn y ffordd gywir e.e. Y Drefn Gwyno, Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.
Ydy Cyfarwyddwyr yn cael eu talu?
Mewn cwmnïau cyfyngedig preifat mae cyfarwyddwyr fel arfer yn cael eu talu. Fodd bynnag, cwmni cymunedol cyfyngedig drwy warant dielw yw ein Cwmni ni ac mae wedi’i atal yn fwriadol rhag talu’r cyfarwyddwyr am eu dyletswyddau yn ôl cyfarwyddyd Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni. Felly, mae’n ddrwg gennym ddweud wrthych na fyddwch yn derbyn cyflog nag unrhyw fonws ariannol fel Cyfarwyddwr ein Cwmni ni!
Am beth mae Cyfarwyddwyr CGHYTCC Ltd. yn atebol?
Mae ‘na atebolrwydd ariannol o £10 y cyfarwyddwr. Mae gan y Cyfarwyddwyr ymrwymiad cyfreithiol i sicrhau bod y cwmni’n gweithredu o fewn y gyfraith, o fewn Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni a chyda gonestrwydd a chywirdeb.
Faint o amser sydd angen i Gyfarwyddwyr ei roi i’r cwmni?
Wel, mae hwn yn gwestiwn anodd! Yn amlwg, bydd yn dibynnu ar lwyddiant y cais am arian loteri ac i ba raddau y byddwn ni’n llwyddo i hyrwyddo defnydd o’n Canolfan Gymunedol a Dysgu Gwledig. Fodd bynnag, dylai Cyfarwyddwyr o leiaf fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac unrhyw gyfarfod cyfarwyddwyr a gynhelir yn ystod y flwyddyn. Yn y gorffennol mae cyfarfodydd Cyfarwyddwyr wedi amrywio o unwaith y chwarter i unwaith y mis, ar adegau gwahanol yn ôl yr angen.
Os hoffech chi wybod sut brofiad yw bod yn Gyfarwyddwr neu os ydych chi am gael mwy o wybodaeth am ddyletswyddau Cyfarwyddwyr, cysylltwch â:
Anne Jeremiah – 01970 820242 Ebost: wivane@hotmail.com
Felicity Wills – 01970 828677 Ebost: felicity.wills@btinternet.com
Jane Guest – 01970 820125 Ebost: janeanneguest@gmail.com
Prydles Bresennol Adeilad yr Ysgol
Mae ein prydles bresennol ar yr ysgol yn dod i ben ar 8fed Rhagfyr 2011 ac er ein bod am gadw meddiant nes ein bod yn clywed yn ôl oddi wrth Gronfa’r Loteri Fawr, bydd yn rhaid inni drafod gyda Chyngor Sir Ceredigion i weld a ydyn nhw’n fodlon caniatáu estyniad i’n tenantiaeth. Mae Geraint Edwards wedi gwirfoddoli i drafod estyniad gyda CSC.
Fodd bynnag, dylai Cymdeithasau’r Gymuned a’r bobl sy’n defnyddio’r adeilad yn rheolaidd gael cynlluniau wrth gefn ar gyfer symud a storio’u hoffer a’u heiddo, rhag ofn na lwyddwn ni i ddod i gytundeb gyda CSC
Digwyddiadau Sydd i Ddod:
Lansiad Llyfr Hoff Ryseitiau’r Teulu
Bydd y Grŵp 60+ yn lansio’r llyfr ryseitiau maent wedi’i greu o hoff ryseitiau teuluol.
Dewch draw ar Nos Wener 28ain Hydref am 7.00pm i brynu’r llyfr a blasu rhai o’r ryseitiau! Delfrydol fel anrheg Nadolig gwahanol!
Hittites a Hieronymus Dydd Sadwrn 12.11.2011 @ 7.45pm
Mae Hittites a Hieronymus wedi cytuno i chwarae *AM DDIM* i ni gael noson o hwyl a sbri yn yr ysgol tra'n codi arian.
Mae'r Hittites yn fand pop hilbili o Aberystwyth. Uriah yr Hethiad a Dave yr Hethiad sy'n ysgrifennu'r caneuon a gweddill y band sy'n eu lliwio -disgrifiwyd y canlyniad gan Dafydd Saer fel 'the musical equivalent of an unputdownable novel'.
Hieronymus yw Dylan Howarth-Cairns a'i dad Andy Cairns o Gwmsymlog. Mae Andy yn chwarae gitâr, banjo, a'r pibau. Mae Dylan yn bedair ar ddeg ac yn Bencampwr ar y ffidil. Mae hefyd yn chwarae hyrdi-gyrdi. Maent yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol o Ynysoedd Prydain.
Awgrymwyd rhodd o £5 yr un. Dewch â’ch lluniaeth gyda chi.
—————